Mae HADSCAL yn cynnal ymgynghoriad cyn ymgeisio ar y campws cymunedol arfaethedig yn Forest Road, cyn cyflwyno cais cynllunio i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r ymgynghoriad yn rhedeg o 3 Tachwedd tan 1 Rhagfyr.
Byddwn yn darllen pob ymateb. Gall eich adborth fod mor fyr neu mor fanwl ag y dymunwch. Bydd crynodeb o’r hyn y mae pobl wedi’i ddweud wrthym yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad ymgynghori a gyflwynir gyda’r cais cynllunio.
Gallwch weld yr holl ddogfennau cynllunio perthnasol yma. Ni fyddwn yn cyhoeddi eich enw na’ch manylion cyswllt. Gellir dyfynnu sylwadau’n ddienw yn yr adroddiad ymgynghori.
Fel arall, os byddai’n well gennych anfon eich sylwadau atom drwy e-bost, cysylltwch â ni ar consultation@hadscal.org.